Person ar y we | A person on the net
I'm a Web Content Producer with experience in delivery for children's, live event and long running television production websites. I assist with social media management for children's TV brands and am able to script, shoot, edit and deliver video content for all types of sites.
Active in the Welsh Language Web scene, as a presenter and curator of the Welsh tech Podcast for 'Hacio'r Iaith'. Also a presenter of online content in S4C children's broadcast continuity links.
Co-ordinating commissioning, delivery and maintainance Stwnsh and Cyw brand programme websites by Boomerang Group companies for S4C.
Curate and present Welsh language tech and media podcast alongside Iestyn Lloyd and Bryn Salisbury. Presenter of live editions from Hacio'r Iaith Welsh tech and Media conferences.
Undertook training in new media production, video editing and project management. Completed a month-long placement at the Limkokwing University of Creative Technology, Kuala Lumpur
Operated animated graphics as part of live theatrical Circus production with designer Tom Rack.
Responsible for item ideas and on location direction of filming for nightly S4C magazine programme.
Mae’r Carnegie UK Trust a Cooperatives y D.U. yn trefnu cyfarfod/cyflwyniad i’r rhai sydd am gychwyn co-op cyfryngau er mwyn darparu newyddion lleol. Mae ‘na sesiwn ar yr 28ain o Fehefin 2013 yng Nghaerdydd ac un arall yn Crewe (sy’n fwy gyfleus o’r Gogledd) ar y 26ain o Fehefin. Make the News yw enw’r sesiynau ac mae na fanylion yma.
Wedi’r daith, bydd na gyngor a chefnogaeth ar gael am ddim i’r rhai sydd am gychwyn coop cyfryngau.
Mae Andrew Misell yn awyddus i drefnu gwersi côd i blant. Darllena isod (dw i wedi copio ei e-bost gyda chaniatâd). Allai unrhyw un helpu? Gadawa sylwadau isod neu gysyllta yn uniongyrchol gyda Andrew.
Dwi wedi cael fy sbarduno i ymysgwyd o ‘nifaterwch am fod y mab wedi cael gwahoddiad i gwpl o gyfarfodydd Young Rewired State – un yn Nhrefynwy ym Mehefin, a’r Ŵyl Gôd sy’n cael ei chynnal ym Mryste a sawl man arall yn Awst. Does dim un o’r rhain yn ymarferol i ni, ac, wrth gwrs, mi fyddan nhw yn Saesneg.
Dwi’n fodlon rhoi cynnig ar weld beth gallwn ni ei wneud o ran trefnu sesiwn undydd yn ne Cymru – Caerdydd, Casnewydd, Pontypridd, efallai. (Un broblem gyda’r Ŵyl Gôd oedd ei bod yn para am wythnos gyda rhan ym Bryste a rhan arall y Mirmingham, ac felly’n mynd yn eithriadol o ddrud o ran llety a theithio). Baswn i am wneud rhywbeth digon rhad i bawb.
[...]
Oes gyda chi blentyn sydd wrth ei fodd gyda chôd?
Oes gyda chi blentyn sydd wrth ei fodd (neu ei bodd) gyda’r cyfrifiadur – yn sgwennu rhaglenni, creu gêmau, neu ddatblygu gwefannau? Gall cyfrifiadura fod yn hobi pur unig weithiau – lot o amser yn plygu dros y cliniadur yn trïo datglymu rhyw ddarn bach o gôd. A does dim byd gwell i arloeswyr a dyfeiswyr na rhannu syniadau.
Hoffwn i wybod a oes rhieni eraill allan yn y byd mawr fasai gyda diddordeb mewn cynnal sesiwn undydd i blant a phobl ifanc oedran ysgol ddod ynghyd yn ne Cymru, i ddysgu gan ei gilydd a rhannu eu prosiectau yn Gymraeg.
I ddangos diddordeb (neu i gynnig help) cysylltwch ag andrew.misell@hotmail.co.uk, neu trydar at @andrewmisell
Cofion
Andrew
Dwi yng nghynhadledd #creadigidol yng Nghaernarfon heddiw (ond mae ar y we ac yng Nghaerdydd hefyd). Dwi newydd gyflwyno ar y pwnc uchod felly meddwl baswn i’n postio dolenni i’r cyflwyniad yma.
Mae wedi bod yn ddiwrnod diddorol iawn a dwi’n falch iawn o weld bod lot o’r pryderon oedd gen i yn y cyflwyniad wedi eu hateb neu’n dechrau cael eu hateb gan S4C. Dyddiau cyffrous yn sicr, a dwi’n siwr bydd lot o sdwff da’n dod allan dros y blynyddoedd nesaf.
http://www.apdyfrig.com/wp-content/uploads/2013/05/SWOT-digidolcymraeg.docx
Mae Click on Wales wedi cyhoeddi trawsgrifiad o araith gan Yr Athro Ian Hargreaves am sut i wella Cymru, yn bennaf trwy mabwysiadu agwedd ‘agored’ yng Nghymru a data agored.
[...] Which brings me to the main point I would like to make this evening. Given a choice between doing something in a way which is open, transparent and contestable or in a way which prioritises privacy, obscured authority or even secrecy, we should never be in any doubt:
Choose open.
Or, as the point is often put in debates about information and the Internet, we should set the default switch to open and then mitigate the risks of being open, rather than first and foremost worrying about loss of control. And we should use these open channels to design solutions around the expressed and researched preferences of users of services – of citizens. [...]
Mae fe’n defnyddio’r gair ‘open’ 36 gwaith (gan gynnwys ‘openly’, ‘openness’ ayyb).
Efallai mae fe’n euog o ddiffiniad rhy slac o’r gair – e.e. dw i ddim yn gweld y cysylltiad rhwng yr enghraifft pel-droed a manteision data agored.
Hoffwn i drafod mwy am y ddarn nesaf sydd yn mynd tu hwnt i ddata agored:
[...] With open also comes plurality – healthy competition between individuals and institutions. The opposite course tends towards the concentration of information and power in the hands of a few: a real danger here in Wales.
So, we should be open to
- Competition from wherever competition stems.
- New ideas and innovation, even where change is painful.
- The movement of people, ideas and culture in the confident belief that strong cultures learn quickly and become stronger as a result. [...]
O safbwynt iaith dw i ddim yn siŵr os yw’r Gymraeg yn ddigon cryf eto i wynebu’r ‘agored’ (yn ôl y diffiniad yma) yn gyfan gwbl. Ond mae’n bosib fy mod i wedi camddeall.
Mae Young Rewired State (@youngrewired) yn trefnu digwyddiad yn Nhrefynwy ar 1-2 Mehefin i godwyr ifainc. https://youngrewiredstate.org/events/gb/2013/yrs-wales
Gallai fod yn gyfle i rai hŷn gyfrannu hefyd gan eu bod yn chwilio am fentoriaid.
Dw i newydd clywedd am ymweliad Bjarne Stroustrup i Abertawe i siarad am C++ ddoe. Aeth unrhyw un? Sut oedd e?
CWRS NEWYDD – 26 Ebrill 2013 (Caerdydd)
Angen cael gwybodaeth o HTML/CSS i’ch rhoi ar ben ffordd?
Eisiau’r gallu i greu gwefannau syml?
Cwrs undydd perffaith fydd yn rhoi i chi’r hyder i fynd a chreu ar gyfer y we!
(cwrs drwy gyfrwng y Saesneg fydd hwn)
Lleoliad: Caerdydd
Manylion llawn:
Ar Haclediad y tro hwn, byddwn yn trafod dyfodiad y ffôn Facebook cyntaf – caru neu gasáu gwefan Mr Zuckerberg, mae hi rŵan ar gael ar ffôn Android ei hun. Hefyd, byddwn ni’n cymryd golwg ar arian arlein Bitcoins, a’r codi a chwymp yn ei gwerth ar farchnad stoc rithwir y we. Hyn oll a llawer mwy o fwydro am deithiau tramor Bryn, yn eich rhifyn diweddaraf o’r Haclediad!
Ac wrth gwrs, diolch ENFAWR eto i Gafyn Lloyd am gymysgu, sortio a pholsio’r Haclediad eto mis yma!
Ar Haclediad y tro hwn, byddwn yn trafod dyfodiad y ffôn Facebook cyntaf – caru neu gasáu gwefan Mr Zuckerberg, mae hi rŵan ar gael ar ffôn Android ei hun. Hefyd, byddwn ni’n cymryd golwg ar arian arlein Bitcoins, a’r codi a chwymp yn ei gwerth ar farchnad stoc rithwir y we. Hyn oll a llawer mwy o fwydro am deithiau tramor Bryn, yn eich rhifyn diweddaraf o’r Haclediad! Ac wrth gwrs, diolch ENFAWR eto i Gafyn Lloyd am gymysgu, sortio a pholsio’r Haclediad eto mis yma!